Cais FareShare Cymru i ymgynghoriad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ‘Ailystyried bwyd yng Nghymru’

Enw: Sarah Germain, Rheolwraig

Sefydliad: FareShare Cymru

E-bost: sarah@fareshare.cymru

Rhif Ffôn: 0292036211

Cyfeiriad: Uned S5, Parc Busnes Capital, Caerdydd CF3 2PU

 

1 Beth ydy eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud er mwyn cyflawni hyn? 

1.1 Mae gan FareShare Cymru weledigaeth o Gymru lle na chaiff unrhyw fwyd da ei wastraffu.

1.2 Rydym ni’n ceisio troi problem amgylcheddol yn ateb i broblem gymdeithasol. Mewn Cymru ddelfrydol, ni fyddai unrhyw fwyd dros ben ac ni fyddai ar unrhyw sefydliad angen ein bwyd i fwydo pobl. Ond, tan hynny, byddwn ni’n parhau i gymryd bwyd bwytadwy o safon dda sy’n weddill o’r diwydiant bwyd ac yn ei ailddosbarthu i sefydliadau sy’n helpu i fwydo pobl mewn angen.

2 Bwyd iachus, wedi’i gynhyrchu’n lleol sy’n fforddiadwy ac yn hawdd cael gafael arno;

 

2.1 Mae angen cydnabod rhan y trydydd sector wrth helpu i fynd i’r afael â pha mor hawdd mynd ato ydy bwyd a faint ohono sydd ar gael. Mae FareShare Cymru yn gweithio gyda dros 200 o elusennau a mudiadau cymunedol ar draws De Cymru, gan gynnwys hosteli i’r digartref, clybiau ciniawa, canolfan i ffoaduriaid, canolfan adferiad cyffuriau ac alcohol, clybiau gwyliau i blant a mwy. Yn 2016-17 fe wnaethon ni ailddosbarthu digon o fwyd i gyfrannu tuag at dros 1.5 miliwn o brydau bwyd i fudiadau sy’n helpu i fwydo pobl mewn angen. Rydym ni’n amcangyfrif fod y bwyd hwn wedi arbed tua £500,000 i’r trydydd sector, arian y mae llawer o’r mudiadau yn gallu ei ailgyfeirio yn ôl at eu gwasanaethau rheng flaen hanfodol neu eu galluogi nhw i barhau i ddarparu eu gwasanaethau bwyd.

2.2 Rydym ni’n cydnabod mai dim ond rhan o’r ateb ydy bwyd sy’n weddill, ond mae hi’n bwysig cydnabod yr effaith sydd gan FareShare Cymru a’n haelodau bwyd cymunedol.

2.3 Mae gwaith ymchwil gan NatCen ar ran FareShare UK yn egluro’r effaith1 trwy ddatgelu bod y rhan fwyaf o gleientiaid yn cael eu prif bryd o fwyd trwy’r aelodau bwyd cymunedol. Un o’r prif fanteision o FareShare yn darparu bwyd i bobl trwy’r aelodau bwyd cymunedol ydy bod cleientiaid yn gallu cael diet llawer iawn mwy iachus a chytbwys.

·         Mae 59% o gleientiaid yr aelodau bwyd cymunedol yn dweud eu bod nhw’n bwyta mwy o ffrwythau a llysiau ers cael mynediad at yr aelodau bwyd cymunedol.

·         Mae 53% o gleientiaid yn dweud bod eu cryfder corfforol wedi cynyddu ers iddyn nhw ddechrau derbyn bwyd yn yr aelodau bwyd cymunedol ac mae 52% yn dweud bod eu lefelau egni wedi cynyddu.

·         Yn ychwanegol at y gwelliannau hyn yn iechyd corfforol y cleientiaid o ganlyniad i’r bwyd maen nhw’n ei gael gan yr aelodau bwyd cymunedol, mae hefyd nifer o effeithiau seicolegol cadarnhaol. Mae 87% yn dweud bod bwyta pryd o fwyd trwy’r gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar sut maen nhw’n teimlo a 92% yn dweud bod gallu cael pryd o fwyd trwy’r gwasanaeth o gymorth iddyn nhw ‘baratoi at y diwrnod sydd o’u blaen’.

·         Mae bwyd yn dod â phobl ynghyd ac i lawer o’n haelodau a’u cleientiaid, mae hyn yn rhan hynod bwysig o’u gwaith.

2.4 Gall bwyd fod y rheswm pam fod rhywun yn dod i un o’r canolfannau, lle gallan nhw yna annog y person hwnnw i geisio cymorth. Mae bwyd sydd wedi’i ddarparu gan ein haelodau bwyd cymunedol wedi dod â nifer o fanteision eraill i’n cleientiaid. Mae 82% yn dweud ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw’n rhan o gymuned ac mae 29% yn dweud mai’r hyn maen nhw’n ei fwynhau fwyaf am fwyta yn y ganolfan aelod bwyd cymunedol ydy gallu cymdeithasu ag eraill.

2.5 Dyma rai sylwadau gan ein haelodau sydd hefyd o gymorth i egluro’r pwyntiau hyn:

‘O’r dechrau un, un o’n prif bryderon ydy’r dewisiadau gwael o ran bwyd y mae pobl ifanc yn eu gwneud – sglodion, saws cyri a diodydd egni uchel! Mae’r bartneriaeth gyda FareShare yn gadael inni ddatblygu caffi gaiff ei redeg gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, gyda chymorth cogydd gwirfoddol. Nid yn unig y gallwn ni wella beth ydy eu dewisiadau bwyd, ond hefyd rhoi iddyn nhw hyfforddiant mewn sut mae trin a pharatoi bwyd a rhoi iddyn nhw rhai sgiliau coginio syml.’

‘(Mae’r bwyd gan FareShare yn) rhoi mwy o amrywiaeth i bobl ac yn gost effeithiol. Heb lawer o arian, fe allwn ni goginio cinio iachus i bobl.’

‘Mae FareShare yn hollol anhygoel, hebddo ni fyddai gennym ni unrhyw gyllideb i brynu bwyd oherwydd ein toriadau. Mae darparu bwyd yn hanfodol, rydym ni’n rhoi bwyd i bobl sydd gan amlaf heb fwyta dim ers diwrnodau.’

3 Diwydiant bwyd arloesol sy’n cynnal swyddi o safon uchel

 

3.1 Mae angen ystyried datblygiad hyfforddiant a sgiliau ar gyfer yr holl ddiwydiant bwyd, gan gynnwys mudiadau’r trydydd sector sy’n gweithredu yn y maes hwn. Mae gennym ni ran bwysig iawn i’w chwarae wrth gysylltu gyda phobl, sydd gan amlaf yn ddi-waith yn hir dymor, a chynnig profiadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal â hyfforddiant. Rydym ni’n chwarae rhan wrth ddarparu pobl gyda’r sgiliau, y profiad a’r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn mynd yn ôl i mewn i’r gweithle a gall hyn fod o fewn sawl maes yn y diwydiant bwyd.

3.2 Yn FareShare Cymru, er enghraifft, mae gwirfoddolwyr yn derbyn danfoniadau, yn trefnu bwyd ac yn ei gofnodi, yn cyflawni archebion ac yn eu danfon. Rydym ni’n ceisio rhoi hyfforddiant i’n gwirfoddolwyr sy’n cynnwys gyrru wagenni fforch godi, hylendid bwyd ac ati. Mae ein gwirfoddolwyr yn aelodau hollbwysig o’n tîm ac yn hanfodol i’r hyn rydym ni’n ei wneud ac ni fuasem ni’n gallu gwneud hynny hebddyn nhw.

3.3 Ond, tydi rhai mathau o hyfforddiant, fyddai’n ddefnyddiol i ni ac i’n gwirfoddolwyr, yn hanesyddol heb fod ar gael gan mai gwirfoddolwyr ydyn nhw yn hytrach na ‘gweithwyr’. Petai’r hyfforddiant hwn ar gael byddai o gymorth i baratoi’r gwirfoddolwyr yn well ar gyfer gwaith ac yn ffordd o’u huwch-sgilio yn barod i fynd i mewn i’r diwydiant bwyd fel gweithiwyr cyflogedig. Yn ychwanegol at hyn, mae hi’n bwysig cydnabod rhan y trydydd sector wrth ddarparu datblygiad hyfforddiant a sgiliau.

4 Bwyd cynaliadwy sydd wedi’i gynhyrchu gyda safon amgylcheddol a llesiant anifeiliaid uchel

 

4.1 Dylai unrhyw weledigaeth y dyfodol ar gyfer bwyd a diod yng Nghymru fod yn seiliedig ar egwyddorion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chyd-fynd â thargedau a nodau sydd wedi’u gosod mewn strategaethau eraill. Yn ddiddorol, does dim dangosydd cenedlaethol sy’n gysylltiedig gyda’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol gyda bwyd.

4.2 Dylai bwyd cynaliadwy sydd wedi’i gynhyrchu olygu fod gwastraff bwyd yn cael ei leihau cymaint ag sydd bosibl. Dylai dyfodol bwyd a diod yng Nghymru gael ei ddatblygu yn unol â’r hierarchaeth gwastraff a’r targedau a’r uchelgeisiau sydd wedi’u gosod yn strategaeth gwastraff Llywodraeth Cymru a’r cynlluniau cefnogi, yn cynnwys atal gwastraff bwyd.

4.3 Mae angen annog busnesau bwyd a diod i sicrhau eu bod nhw’n gweithredu ar yr hierarchaeth gwastraff. Mae atal gwastraff bwyd yn arbed adnoddau ac arian y mae modd ei ail-fuddsoddi yn y farchnad fwyd. Mae angen ei wneud yn gost niwtral ar gyfer y diwydiant bwyd er mwyn cyfeirio bwyd addas i’w ailddosbarthu i elusennau yn hytrach na ffyrdd eraill o gael gwared ar fwyd a all gael eu sybsideiddio. Wedi’i gynnwys yn hyn ydy’r rhan mae ailddosbarthu bwyd sy’n weddill yn ei chwarae wrth sicrhau na chaiff unrhyw fwyd da ei wastraffu. Yn ystod 2016-17 fe wnaeth FareShare Cymru ailddosbarthu dros 460 tunnell o fwyd dros ben i fudiadau sy’n helpu i fwydo pobl mewn angen. Fe wnaeth ein haelodau bwyd cymunedol ddefnyddio’r bwyd hwn i ddarparu dros 1.1 miliwn o brydau bwyd gan arbed arian hanfodol i’r trydydd sector y mae modd ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen holl bwysig.

4.4 Mae gan leihau gwastraff bwyd fanteision amgylcheddol pellach. Mae sicrhau y caiff y mwyaf ei wneud o’r bwyd gaiff ei gynhyrchu yn lleihau’r angen i gynhyrchu mwy ar ddefnydd dŵr, gwrteithiwr a phlaladdwr sy’n lleihau yn ogystal ag ar drawsgludiaeth sy’n lleihau.

 

1 More Than Meals

 http:/www.fareshare.org.uk/wp-content/uploads/2016/12/More-Than-Meals-Exec-Summary-FINAL.pdf